Detailed Description
Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer ymgeiswyr o brifysgolion eraill sydd am sefyll arholiad ym Mhrifysgol De Cymru. Rydym yn gweithredu fel canolfan arholi ar gyfer ymgeiswyr prifysgolion eraill sydd am drefnu i sefyll arholiadau ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae'r Brifysgol yn falch o gynnig cymorth i gynnal arholiadau ar bapur yn unrhyw un o'n safleoedd ym Mhontypridd, Caerdydd neu ddinas Casnewydd.
Rydym yn cynnig lefel uchel o broffesiynoldeb ac ystod o wasanaethau gan gynnwys llety addas a goruchwylwyr arholiadau profiadol.
Ffi'r trefniant presennol yw £100.00 fesul arholiad.
Amserlen:
• Fel arfer, gofynnwn i arholiad gael ei amserlennu yn y sefydliad llywyddu ar ddyddiad ac amser sy'n dod o fewn ein prif gyfnodau arholi neu ailsefyll. Mae pob arholiad wedi ei amserlennu ym Mhrifysgol De Cymru gydag amseroedd cychwyn o 09:30hrs, 14:00 o'r gloch ac yn achlysurol, 18:00 o'r gloch. Ewch at ein tudalennau gwe i weld ein cyfnodau arholi
-
https://registry.southwales.ac.uk/exams/
• Rhaid i geisiadau gael eu derbyn gan bartïon â diddordeb dim hwyrach nag un mis o ddechrau'r prif gyfnod arholiadau neu'r cyfnod arholiad ailsefyll. Mae posibilrwydd y gallai ceisiadau sy'n cyrraedd y tu hwnt i'r terfynau amser hyn gael eu hystyried ond byddant yn dibynnu ar gyfyngiadau ystafell a staffio.
This service is for candidates of other Universities who wish to sit an examination at the University of South Wales.
We act as an examination centre for candidates of other Universities wishing to arrange to sit examinations at the University of South Wales.
The University is pleased to offer assistance in the conduct of paper based examinations at any of our sites at Pontypridd, Cardiff or Newport City.
We offer a high level of professionalism and a range of services including suitable accommodation and experienced Examination Invigilators.
The current arrangement fee is £100.00 per examination.
Timings: